Croeso Events

Specialists in Corporate Conferencing & Event Management

 

 

Cwmni rheolaeth achlysur yw Croeso Events sydd â mwy na deng mlynedd o brofiad ym maes digwyddiadau rheolaeth.

Gallwn drefnu eich cynhadledd neu gyfarfod i’r safon uchaf ac mewn modd proffesiynol. Rydym yn credu’n ddiffuant y dylai cynrychiolyddion neu westeion sy’n mynychu eich digwyddiadau  deimlo eu bod yn cael croeso twymgalon, ac felly byddwn yn cadw’r gair ‘croeso’ yn wastad yn y cof wrth drefnu ar eich cyfer.

Rydym wedi ein lleoli yn Ne Cymru, ond gallwn drefnu’ch  digwyddiad mewn unrhyw ran o’r wlad ac y mae gan ein staff berthynas weithio ardderchog gyda lleoliadau o safon dros y wlad.

Sylwch isod ar rai o’r gwasanaethau cefnogi rydym yn eu cynnig i sicrhau bod eich digwyddiad , boed fawr neu fach, yn llwyddiant digamsyniol. 

  • Cofrestru cynrychiolyddion drwy gyfrwng ein cyfeiriad e-bost personol.

  • Cydnabyddiad o leoedd a gadarnhawyd yn uniongyrchol gyda’r cynrychiolydd neu’r gwestai.

  • Gallwn drefnu llety dros nos ar gyfer siaradwyr gwadd a chynrychiolyddion.

  • Trefniadau teithio ar gyfer siaradwyr gwadd os bydd angen.

  • Gwasanaeth talu  pryd y gallwn gasglu ffioedd y cynrychiolyddion yn uniongyrchol ar eich rhan.

  • Trefnu’r achlysur gyda gwesty neu leoliad o’ch dewis chi. Gallwn hefyd awgrymu lleoliadau ardderchog a fyddai’n addas ar gyfer eich anghenion.

  • Gallwn hefyd drefnu pecynnau cynrychiolyddion a bathodynnau enw.

  • Trefnu darpariaeth TG a chefnogaeth glywedol addas ar gyfer eich anghenion yn y lleoliadau.

  • Rydym yn cynnig darpariaeth ddwyieithog pe dymunir hynny  a gallwn drefnu bod Cymro/Cymraes Gymraeg yn gweinyddu’ch achlysur. Gallwn hefyd drefnu gwasanaeth cyfieithu ar eich cyfer ar gost a gytunir rhyngom.

  • Yn ogystal â chynadleddau a chyfarfodydd gallwn hefyd drefnu dyddiau corfforaethol golff neu bysgota mewn lleoliadau prydferth o safon o gwmpas y wlad.

Blas o rai o’r gwasanaethau rydym yn eu cynnig er mwyn sicrhau bod eich achlysur yn cael ei drefnu’n dda ac yn llwyddiant mawr yw’r uchod.

Cysylltwch â ni ar:

E-bost : enquiries@croesoevents.co.uk

Ffôn: 07891 452260